Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

21 Hydref 2019

SL(5)455 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Phrotocolau Prinder Difrifol) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Phrotocolau Prinder Difrifol) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau hyn”) yn diwygio telerau gwasanaethu ar gyfer fferyllwyr GIG yng Nghymru i hwyluso cydymffurfiad â Phrotocolau Prinder Difrifol a gyhoeddir o dan Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012.

Bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn estyn diffiniad a chwmpas Protocolau Prinder Difrifol i gynnwys protocol ysgrifenedig a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru, mewn amgylchiadau lle mae Cymru, neu unrhyw ran ohoni, ym marn Gweinidogion Cymru, yn profi neu a allai brofi prinder cyffur penodedig (ac eithrio un sy’n feddyginiaeth presgripsiwn yn unig) neu beiriant neu gyffur (ac eithrio un sy’n feddyginiaeth presgripsiwn yn unig) neu beiriant o ddisgrifiad penodol.

Daeth Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol (Diwygio) 2019 (“y Rheoliadau diwygio”) i rym ar 9 Chwefror 2019 ac maent yn diwygio Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 i ddarparu ar gyfer gwerthu neu gyflenwi meddyginiaethau presgripsiwn yn unig gan fferyllydd o dan Brotocol Prinder Difrifol a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidogion Gogledd Iwerddon (gan fod rheoleiddio meddyginiaethau yn fater datganoledig yng Ngogledd Iwerddon) y naill neu’r llall yn gweithredu ar ei ben ei hunan neu’r ddau ohonynt yn gweithredu ar y cyd.

Mae’r Rheoliadau diwygio yn rhoi pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Gogledd Iwerddon gyhoeddi Protocolau Prinder Difrifol pan fo’r Deyrnas Unedig neu unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig yn profi prinder difrifol o feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, neu pan allant brofi prinder o’r fath. Mae’r Protocolau Prinder Difrifol wedi’u cynllunio i ganiatáu i fferyllwyr gyflenwi math gwahanol o feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, neu gryfder gwahanol, ffurf wahanol neu faint gwahanol o’r feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn honni y bydd Protocolau Prinder Difrifol yn gwella’r modd y gall Llywodraeth Cymru reoli prinder difrifol o feddyginiaethau.

Rhiant-Ddeddf: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

Fe’u gwnaed ar: 08 Hydref 2019

Fe’u gosodwyd ar: 10 Hydref 2019

Yn dod i rym ar: 31 Hydref 2019